Tafarn y Fic - Llithfaen | Tafarn Gymunedol Gymraeg
 
Hafan | Tudalen flaen gwefan Tafarn y Fic
 
Digwyddiadau sydd i ddod yn Y Fic
 
Camu 'Mlaen | 'Rydych chi ar y dudalen yma
 
Buddsoddi | Cyfleon i fuddsoddi yn ein menter
 
Cysylltu | Manylion cyswllt Y Fic
 
www.tafarnyfic.com | Tafarn Gymunedol Gymraeg yn Llithfaen, ger Pwllheli yng Ngwynedd
   

Menter Tafarn y Fic yn Camu Ymlaen

Wedi 15 mlynedd, mae Tafarn y Fic, Llithfaen yn Llýn o’r diwedd wedi cau. Bymtheng mlynedd yn ôl, roedd yn eiddo i fragdy nad oedd yn rhagweld unrhyw ddyfodol ynddi fel tafarn mewn pentref chwarel oedd wedi gweld ei ddyddiau gwell. Bryd hynny, camodd y pentrefwyr i’r bwlch a phrynu’r adeilad er mwyn ei chadw ar agor. Bu amryw o denantiaid yn ei rhedeg, ond ers mis Ionawr, mae’r seler yn wag a’r bar wedi cau.

Ond nid dyna ddiwedd y stori. Ers ei chau, mae wedi’i gweddnewid. Mae’r hen ddarn wedi’i dwtio, ei ail-doi, y gwaith maen wedi’i godi i’r wyneb ac wedi’i bwyntio. Mae’r hen estyniad blêr yn y cefn wedi’i dynnu i lawr a chlamp o estyniad sy’n ymgorffori cegin arlwyo hwylus a stafell gymunedol eang wedi’i godi yn ei le. Mae’r dafarn deirgwaith ei maint gwreiddiol erbyn hyn. Mae rhywbeth rhyfedd ar droed...
Wedi’i chau i wneud newidiadau sylfaenol a hanfodol y mae Tafarn y Fic, - newidiadau y mae’n rhaid wrthynt er mwyn i’r fenter gydweithredol sy’n berchen ar yr adeilad barhau a ffynnu yn y dyfodol. “Roeddan ni’n gweld ers blynyddoedd na fedren ni aros yn yr un rhych,” meddai Gwyn Plas, Trysorydd Cwmni’r Fic. “Doedd na ddim digon o adnoddau yn y dafarn i wneud bywoliaeth go iawn. Roedd yr adeilad wedi dirywio hefyd ac roedd rhaid ei weddnewid yn llwyr os oeddan ni am ei chadw ar agor.

Dyna wnaed. Aeth y pwyllgor rheoli ati i chwilio am grantiau Amcan Un. Wedi dyfalbarhau am flynyddoedd, crewyd cynllun derbyniol a sicrhawyd digon o arian i wneud y gwaith adeiladu. Yn lle bod yn dafarn denant, bydd yn fenter dan reolaeth y cyfarwyddwqyr o hyn allan, gyda’r elw i gyd yn cael ei gyflwyno yn ôl i’r gymuned. Elfen bwysig iawn yn y cynllun yw’r stafell gymdeithasol fydd yn cynnwys offer cyfrifiadurol ac yn gallu cynnal amrywiaeth o weithgareddau o weithdai celf a gwersi cynghanedd i fod yn fwyty i fod yn stafell adloniant. Gyda diwedd y gwaith adeiladu yn y golwg, mae Cwmni’r Fic bellach yn hysbysebu’r ddwy swydd gyntaf y maent am eu llenwi yn y datblygiad newydd.

Rydan ni’n chwilio am reolydd,” meddai John Llyfnwy, Cadeirydd y Fenter, “a hefyd is-reolydd neu gogydd. Mae hwn yn gyfle gwych i weithwyr sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o fusnes newydd sydd hefyd gyda hen wreiddiau iddo. Mi fydd y Fic yn parhau yn dafarn bentref, ond hefyd yn lle bwyta fydd yn tynnu pobol o bell ac agos a hefyd yn parhau â’r traddodiad o fod yn dafarn sy’n cynnig pob math o adloniant Cymraeg i’r ardal. Rydan ni’n cynnig cyflogau da, gyda chyfle i’r swyddi ddatblygu ac mae fflat uwch ben y dafarn ar gael yn ogystal.

Gobaith Cwmmni’r Fic yw y bydd y busnes yn gyflogwr allweddol yn y pentref yn y dyfodol gyda phob math o weithgareddau a digwyddiadau yn cael eu denu yno yn sgil yr adnoddau newydd sydd gan y dafarn i’w cynnig.


Cliciwch yma i weld Y Fic ar ei newydd wedd