Croeso
i wefan Tafarn y Fic, tafarn gymunedol Gymraeg yn Llithfaen,
ger Pwllheli.
Yn 1988, ffurfiodd nifer o bobl ardal Llithfaen gwmni cydweithredol a chodi cyfalaf i brynnu Tafarn y Fic. Ers hynny mae wedi tyfu’n dafarn gymdeithasol Gymreig yn darparu amrywiaeth o adloniant Cymraeg ac yn cynnig cyflogaeth leol.
Dewisiwch o'r rhestr dolenni uchod i ddarganfod mwy am y Fic a be' sy' gennym i'w gynnig, neu defnyddiwch y lincs sydyn isod:
Os hoffech ragor o wybodaeth, yna mae croeso i chi gysylltu efo ni.
Tafarn y Fic - Tafarn Gymunedol Gymreig.
fawr yn ei seleri,
swn parhau’n ei hwyliau hi,
gwanwyn yn ei chasgenni.”
Myrddin ap Dafydd “Hen ddoniau sy’n diddanu – Gymru hen
Yn Gymraeg yn canu,
Ac mae’r don o groeso’n gry;
Diferyn, a difyrru.”
Prysor “Yn ôl arfer y clerwr,
Mi fûm yn canu ‘mhob cwr;
Gwn lle sy orau gen-i:
Canu’n Y Fic a wnaf i.”
Twm Morys
Cefnogwyd menter Tafarn y Fic gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Ymholiadau? Ffoniwch ni ar 01758 750473 neu eBostiwch ni ar swyddfa@tafarnyfic.com.
Diolch am ymweld â'r wefan ~ mi welwn ni chi'n fuan yn y Fic gobeithio.
